New Times,
New Thinking.

Myfyrdod adeg Gŵyl Ddewi

By Olivia Williams

Heddiw o bob diwrnod, dylem ddathlu mor wyrthiol ydyw ein bod ni yng Nghymru, er i ni gael ein concro yn y drydedd ganrif ar ddeg, a byw yng nghysgod un o brif ieithoedd cyffredin y byd, eto’n medru siarad ein hiaith ein hun. Wedi ein hir hanes dan reolaeth estron, mae’n rhyfeddol odiaeth fod y genedl Gymreig yn medru sefyll mewn ystafell ynghanol eu cymdogion Seisnig a chael sgwrs hollol breifat.

Dengys y cyfrifiad diweddaraf, serch hynny, na allwn fod yn hunanfodlon. Mae dirywiad unwaith yn rhagor yn dynesu’n llechwraidd. Rŷm o hyd yn uwch na lefel 1991 o 581,000 ac mae hyn yn galonogol, ond bod y cyfartaledd o siaradwyr Cymreig wedi gostwng 2% o 2001 i 562,000 (19%).

Felly, mae’r broblem y tynnwyd ein sylw ati gyda’r fath bendantrwydd gan araith “Tynged yr Iaith” Saunders Lewis, ysywaeth, wedi dychwelyd – sut gallwn ni sicrhau nad â’r iaith hynafol hon i ebargofiant yn ystod ein gwyliadwriaeth ni? Nid oes neb eisiau bod yn perthyn i genhedlaeth y bydd yn rhaid iddi gyfaddef ei bod wedi gadael i’r iaith wywo ar y winwydden.

‘Fum i erioed yn byw yng Nghymru, ac mae fy ngwybodaeth o’r Gymraeg yn deillio o ymgomio â’m teulu ac o fynd i Ysgol Gymraeg Llundain tan i mi gyrraedd chwe mlwydd oed. Fe wn i, o brofiad, ei bod yn dra anodd i ddal ati i gadw’r Gymraeg pan nad ydych yn ei defnyddio’n wastadol.

Dyna paham y mae’n rhaid i ni drawsnewid yn gyfangwbl ein holl ymagweddiad at y Gymraeg.

Nid yw gorfodi astudio’r Gymraeg hyd lefel TGAU yn ddim ond gwasanaeth gwefus, os na fydd yn datblygu i fod yn iaith yr iard chwarae, y dafarn a’r siop. Lletchwithdod cymdeithasol pur yw rhan o’r broblem.

O gwrteisi fe siaredir Saesneg gan nifer sylweddol o Gymry mewn lleoedd cyhoeddus i osgoi cau allan pobl na allant, o bosib, fedru’r Gymraeg. Fodd bynnag, er mwyn ei gwneud yn iaith fwy naturiol a phoblogaidd rhaid newid hyn. Gan fod y Cymry’n drwyadl yn y Saesneg mae’n rhy hawdd o lawer ei mabwysiadu fel ein ‘lingua franca’ ninnau hefyd, yn enwedig pan fydd cynifer o bobl Seisnig yn symud i mewn i’r wlad i gymryd mantais o brisoedd rhatach tai.

Nid wyf, o gwbl, yn gwarafun i Saeson, nad ŷnt yn medru’r Gymraeg, ddod i Gymru, ond mae’n rhaid iddynt gyfaddasu â’r Cymry ac nid i’r gwrthwyneb. Unwaith y bydd crynswth beirniadol o bobl na fedrant y Gymraeg, a hynny mewn tref fechan, fe all yn gyflym symud i gymuned i siarad Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg.

Byddai dysgu’r Gymraeg dipyn yn llai o ymdrech i ddysgwyr pe gwnaed hi’n iaith dderbyniol yn gyhoeddus. Fe glywais, hyd yn oed, am Saeson a ymdrechodd ddysgu’r Gymraeg, yn achwyn na chânt ddigon o ymarfer, oherwydd, weithian, onid yw pobl yn sicr eich bod yn siarad Cymraeg, fe dybiant nad ydych yn gwneud hynny. Mae angen trawsnewid y cyhoedd dan y camargraff hwnnw yn gadarn yn ôl i’r Gymraeg.

Fy hoff ddyfais ddiweddar i, yw’r bathodynnau ‘Cymraeg’ y gall gweithwyr yn rhywle yng Nghymru eu harddangos i brofi eu bod yn medru’r Gymraeg. Mae hyn yn torri allan y dyfalu lletchwith.

Mae’r newid hwn ymhlŷg â bod yn amyneddgar gyda phobl nad ŷnt yn rhugl. Y duedd naturiol, wrth gwrs, i achub rhywun sy’n cloffi gyda’u Cymraeg yw symud i’r Saesneg yn gyflym, ond mae hyn, mewn gwirionedd yn wrthgynhyrchiol. Sut gallant wella eu Cymraeg fyth ?

Problem arall ynglŷn â chadw’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol yw bod rhai rhieni’n ymddangos yn ddrwgdybus ynglŷn â’i gwerth, yn enwedig os nad ydynt yn ei siarad eu hunain. Rhan o hyn yw’r syniad hen-ffasiwn y bydd eu Saesneg yn dioddef os bydd plant yn ceisio ymdopi â iaith arall, ond nid yw hynny wedi ei seilio ar brofiad. Mae’r Saesneg mor gryf ym Mhrydain fel y tuedda plant ddatblygu’n ddwyieithwyr rhugl – gyda’r fantais o ddwy iaith, dwy gelfyddyd a dwy farchnad gwaith. Mae plant Ewrop yn siarad llawer iaith heb unrhyw drafferth. ‘Does yna’r un rheswm na ddylai hyn fod yn berthnasol i Brydain.

Mae’r Bwrdd Addysg Gymraeg yn awr wedi ei ddisodli i wneud lle i Gomisiynydd Newydd y Senedd. ‘Dyw’r Senedd ddim yn nodedig am ei hochr greadigol ac ‘rwyf i’n ofni fod ei chynllun strategol am yr iaith, sydd i’w gyhoeddi eleni, mor ddiffygiol a diddychymyg â’i pholisiau eraill. Felly ‘rwy’n gobeithio y bydd y Senedd yn ymroi i feddwl yn weithredol ac ar lefel leol. Maent yn tueddu canolbwyntio ar yr agwedd swyddogol – cael biliau nwy a ffurflenni Treth Cyngor yn y Gymraeg, ac wrth gwrs, pethau tebyg.

‘Rwyf yn gobeithio y byddant yn meddwl y tu allan i fiwrocratiaeth gan eu bod wedi ymgymryd â’r cyfrioldeb o feithrin ein hiaith. Gobeithiaf am ragor o syniadau fel y bathodynnau Cymreig oren. Mae’n syniad mor syml, ond mae’n ymwneud â hybu gweithredol, bywyd bob dydd a synnwyr cymunedol. Popeth yn wir, y dylai polisi iaith fod.

Os yw mynd o amgylch yn siarad Cymraeg yn gyhoeddus yn peri i rai pobl fod yn anghysurus, boed hi felly. Ni ddylem adael i iaith canrifoedd ddarfod i arbed nifer bach o ysbeidiau anodd. Dydd Gŵyl Dewi Sant Hapus – Happy St David’s Day.

Confused? Don’t speak Welsh? Try this one.

Content from our partners
A luxury cruise is an elegant way to make memories that will last a lifetime
An innovative approach to regional equity
ADHD in the criminal justice system: a case for change – with Takeda